🌿 Back to all jobs

🥝 Darlithydd mewn Saesneg Lefel A

Gower College Swansea | swansea, United-Kingdom | Posted June 25, 2026

Job Description

Darlithydd mewn Saesneg Lefel A

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr blaenllaw iawn yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth lles staff o’r radd flaenaf, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein staff gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi.

Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn profiadol a brwdfrydig i addysgu fel aelod o dîm Saesneg Coleg Gwyr Abertawe. Mae’r rôl yn barhaol, ffracsiynol hon wedi’i lleoli ar gampws Gorseinon a bydd gofyn i ddeiliad y swydd ddarparu cwricwlwm Saesneg Safon Uwch CBAC. Mae Saesneg yn bwnc poblogaidd yng Ngholeg Gwyr Abertawe ac mae’r rôl hon yn gyfle i ymuno ag adran lewyrchus sy’n meddu ar ymagwedd gadarn ...

Apply for This Position

Submit Application